Shwmae! A Chroseo i fy Mhlog: “Jabber da’ Jess”. Rwy’ ar daith i ddefnyddio fy nghaith mwy, trwy flogio a rhannu cynnwys yn Gymraeg. Dwi eisio apelio at yr cenhedlaeth ‘millenials’ gan creu cynnwys perthnosol trwy’r iaith Gymraeg, a ysbrodoli siardwyr ail-iaith arall I ddefnyddio eu iaith mwy. S’dim pwysau te!

Bach o ‘background chec’. Nes i symud i Aberystwyth pam o’n i’n chwech oed o Surrey, ar bwys Llundain. Dwi’n cofio wythnos gynta fi yn ysgol gynradd oedd pawb yn ddathlu penblwydd Sali Mali efo ‘Life-size’ Sal (probs jyst fam rhywun), mabolgampau ag gacen- o’n i’n meddwl bod Gymru yn blydi ffab! Dim byd di’ newid fynna. Oedd yr ysgol yn iaith gynta’ Gymraeg felly es i i Ysgol Penweddig ddau waith yr wythnos pam o’n i’n saith mlwydd oed I ddysgu’r iaith. Yn anffodus, dros yr flynydda ar ol ysgol es i bron a colli’r Iaith ar ol ddim ddefnyddio e am sbel, ond diolch i cameo’s bach ar teledu Gymraeg (shout out Pryd-O-Ser ag Ddathlu 50 mlynedd of Merched Y Wawr- lejonds) ag llawer o ddyddiau ‘boozy’ at yr rygbi yn chanu’r anthem dros peint neu phump o cwrw, nes i ffeindio fy hiraeth unwaith to.
Nes i gwmpo mewn cariad efo Ffaberystwyth (neu Aberystwyth i non-Aber pobol) dros yr flynyddoedd ag ar ôl byw yn Nghaerdydd am saith mlynedd ag teithio dros y byd efo modelu, mae mynd nol i Aber am ddawns yn Rummers, VK yn Yokos ag Lip Lickin’ Fried Chicken am pump o’r gloch yn yr bore dal fy syniad o noson blydi grêt!

Nes i ddechre cyfres ar YouTube ‘Taith Iaith’ lle rwy’n teithio dros Cymru efo fy ffrindiau yn archwilio’r wlad ar iaith Gymraeg.
Plîs tanysgrifiwch i sianel YouTube i: JessDavies am mwy chontent Gymraeg.
Dilyn fi ar Twitter: _JessicaDavies
Dilyn fi ar Instagram: _JessDavies
Os mae na unrhyw syniad neu topic bydd gen ti diddordeb i mi drafod, anfon neges i mi fan hyn.
Am unrhyw ymholiadau busnes plîs anfon e-bost i: jabberwithjess@gmail.com
Diolch!